ENGLISH
Soar y Mynydd, Llanddewi Brefi.,
Dechreuwyd yr achos 1747 ac adeiladwyd y capel yn 1828, yn y dull pensaerniaeth werinol. © Hawlfraint y Goron: CBHC
CYSYLLTU Â NI
 

Catalog dodrefn Harry Gibbon and Sons, Caerdydd


Catalog Harry Gibbon and SonsRhoddwyd y catalog diddorol hwn i ofal Capel gan ddau o'n haelodau, sef Glenys a Derrick Deane. Nid oes dyddiad ar y catalog ond mae'n debyg y cyhoeddwyd yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif. Mae catalogau fel hyn yn werthfawr iawn fel ffynonellau gwybodaeth am ddodrefn ein capeli. Byddwn yn falch iawn o glywed gan aelodau sydd â gwybodaeth o eitemau tebyg. Ceir nodyn am y catalog yn ein Cylchlythyr rhif 48.

Mae'r catalog ar gael fel ffeil PDF. Maint y ffeil yw tua 10MB, a fydd yn cymryd tua 30 munud i lawrlwytho drwy modem, ond llawer llai drwy band llydan.

Darllenwch Catalog Harry Gibbon

Rhaid i chi ddefnyddio rhaglen Adobe Reader (neu rywbeth tebyg) i ddangos ffeiliau PDF. Mwy na thebyg mae copi ar eich cyfrifiadur eisoes, ond os nad oes, mae modd lawrlwytho'r meddalwedd yma:
get adobe acrobat reader