Castle Square, Eglwys Bresbyteraidd Seisnig, tu fewn, Caernarfon.,
Adeiladwyd y capel yn 1882-3 yn y dull Gothig yn dilyn cynllun Richard Owen, Lerpwl. © Hawlfraint y Goron: CBHC
Mae gan y Llyfrgell gronfa ddata sy'n rhestru cofysgrifau o gapeli Anghydffurfiol sydd mewn archifdai. Nid yw'r gronfa ddata ar gael ar-lein. Mae'n rhaid ymweld â'r Llyfrgell i'w defnyddio.Mae'r gronfa ddata ar gael i ddefnyddwyr yn ystafell gatalog (am oriau agor ymwelwch â
gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru)
Mae'r Comisiwn Brenhinol ar hyn o bryd yn cyd-drefnu'r gwaith o gofnodi capeli Anghydffurfiol yng Nghymru. Yr amcan yw cynhyrchu cofnod ysgrifenedig o bob capel ynghyd â chofnod ffotograffig, lle mae modd gwneud hynny. Gwneir cofnodion mwy manwl, gan gynnwys arolygon mesuredig, o adeiladau a ystyrir o bwysigrwydd arbennig o ran penseirnïaeth, hanes neu grefydd. Crëir cronfa ddata sydd ar gael yn llyfrgell Cofnodion Henebion Cenedlaethol Cymru yng Nghomisiwn Brenhinol Henebion Cymru (am oriau agor ymwelwch â
gwefan y Comisiwn Brenhinol). Ar hyn o bryd mae'r Comisiwn Brenhinol yn gweithio tuag at ddosbarthu'r holl wybodaeth a gasglwyd trw'r brosiect mewn cyhoeddiad a gwefan ar-lein.
Bydd Capel yn falch o wybod am unrhyw gynlluniau eraill.
Cysylltwch â'r ysgrifennydd.