• Mae capeli yn cau yng Nghymru ar raddfa o un yr wythnos
• Mae llawer o gynulleidfaoedd yn ei chael yn anodd i gynnal eu hadeiladau
• Bob blwyddyn mae nifer helaeth o gofnodion a dogfennau capeli yn cael eu dinistrio neu'n mynd ar goll, er gwaethaf y ffaith bod anghydffurfiaeth yn bwysig iawn yn hanes Cymru a'r cymunedau lleol
• Dymchwelir dwsinau o gapeli bob blwyddyn, tra bo eraill yn cael eu trawsnewid yn anaddas a hynny heb gadw llun na chofnod ohonynt
• Mae llawer o gapeli o werth pensaernïol arbennig ond ychydig sy'n cael eu diogelu trwy roddi iddynt statws adeiladau cofrestredig
• Hyrwyddo astudiaeth a chadwraeth etifeddiaeth Anghydffurfiol Cymru
• Cynnig gwybodaeth a chyngor i gynulleidfaoedd ar ffyrdd i gynnal a chadw eu hadeiladau
• Cofnodi ac astudio pensaernïaeth capeli
• Annog capeli i ddiogelu eu cofnodion
• Annog addasu gofalus capeli nad oes eu hangen bellach ar gyfer eu bwriad gwreiddiol
Daw aelodau o'r pwyllgor o ardaloedd gwahanol yng Nghymru a tu hwnt ac maent yn cynrychioli amrywiaeth o sefydliadau a diddordebau. Mae'r pwyllgor yn derbyn cymorth gan nifer o arbenigwyr ar adeiladau ac enwadau.
Dr Lionel Madden Llywydd Anrhydeddus
Cynghorydd Meirick Lloyd Williams Cadeirydd
Parch. Peter Jennings Ysgrifennydd
Mr Richard Thomas Trysorydd
Ms Susie Fielding Golygydd y Cylchlythyr
Mrs Marlies Cope
Mrs Rosemary Davies
Miss Muriel Bowen Evans
Mr Andrew Mathieson
Dr D Huw Owen
Mae gweithgareddau Capel yn cynnwys: Digwyddiadau Cyhoeddiadau
Sut i ymuno â Capel...