ENGLISH
Cyssegr, Capel yr Annibynnwyr, Beddgelert.,
Adeiladwyd y capel presennol yn 1853 a helaethwyd yn 1903. Addaswyd yn ddiweddar. © Hawlfraint y Goron: CBHC
CYSYLLTU Â NI
 
Mae gan bob tref a phentref yng Nghymru gapeli.Maent wedi chwarae rhan bwysig yn natblygiad ein cymdeithas. Mae'r adeiladau trawiadol - weithiau'n gartrefol, weithiau'n hynod, ond yn aml ynysblennydd - wedi cyfrannu'n helaeth at olwg ein gwlad. Heddiw mae'r cynulleidfaoedd a'r adeiladau yn diflannu'n gyflym.

Mae aelodau Capel yn dathlu hanes a phensaerïaeth ein capeli.Rydym yn ymweld â nhw er mwyn clywed am eu hanes a gweld eu hadeiladau hardd. Pan mae'n rhaid iddynt gau ceisiwn sicrhau bod eu harchifau'n ddiogel a bod yr adeiladau'n cael eu defnyddio'n addas.

Sefydlwyd Capel yn 1986 fel cymdeithas wirfoddol. Erbyn heddiw mae gennym fwy na 300 o aelodau yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a'r Unol Daleithiau. Rydym yn croesawu aelodau newydd!
mwy....
Array

Newyddion

Cynefin (16-02-2016) mwy...
Newyddion i gyd